vix.ing · top · new · best · stats · spec

Llywio’r iseldiroedd corsiog: Safbwyntiau staff addysg uwch ar lunio hunaniaethau proffesiynol trwy addysg foesol mewn rhaglenni gradd proffesiynol sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned

2026/05/20 by Louise Allen-Walker, Daniel Williams · 1 voice
Social Sciences · #Geography Education and Pedagogy #Religious Education and Schools #Educational Theory and Curriculum Studies

paper · pdf · doi:10.16922/wje.28.1.6cym

openalex publication_date 2026/05/20 · openalex created_date 2026/05/22 · openalex updated_date 2026/06/26

Abstract

Pwrpas Nod y gwaith ymchwil hwn oedd archwilio canfyddiadau staff prifysgol o hyfforddiant moesol a moesegol ar raglenni lle bydd graddedigion yn ymwneud yn uniongyrchol â’r gymuned, megis plismona a gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol. Cynllun/methodoleg/dull Casglwyd data ansoddol drwy sesiynau ffocws lled-strwythuredig gyda staff o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Gwirfoddolodd pum cyfranogwr o bob rhan o’r sefydliadau i gymryd rhan. Canfyddiadau Mae addysg uwch yn offeryn gwerthfawr ar gyfer addysg foesol a moesegol i fyfyrwyr sy’n astudio ar gyfer rolau sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r gymuned. Ymhlith yr ystyriaethau allweddol yr oedd y berthynas rhwng ontolegau personol a ffiniau proffesiynol, mannau diogel i fynd i’r afael â materion moesegol cymhleth a rhagfarn ddiarwybod a pharatoi myfyrwyr gan ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn o ymarfer. Lluniodd yr academyddion eu hunaniaethau drwy eu rolau proffesiynol; mae hyn yn effeithio ar eu hontolegau personol ac ar eu haddysgu. Goblygiadau ymarferol Mae prifysgolion yn gyfryngau pwysig ar gyfer llunio hunaniaeth broffesiynol o amgylch sgaffald safonau proffesiynol, codau ymarfer a deddfwriaeth. Mae addysg foesol a moesegol yn cynnig y cyfle i gefnogi myfyrwyr i deimlo eu bod wedi’u grymuso i wthio’n ôl yn erbyn dylanwadau cymdeithasol normadol pan fyddant yn cyrraedd cyflogaeth. Mae angen mannau diogel o fewn prifysgolion i staff a myfyrwyr drafod materion moesol a moesegol sy’n codi yn ymarferol. Gall modelau goruchwylio clinigol fod yn dempled defnyddiol ar gyfer goruchwylio staff a myfyrwyr mewn lleoliadau addysg uwch. Gwreiddioldeb Mae gwaith ymchwil blaenorol yn y maes hwn wedi canolbwyntio’n bennaf ar hyfforddiant moesol a moesegol o fewn gweithwyr proffesiynol cymunedol cymwysedig yn hytrach nag o fewn ystafelloedd dosbarth addysg uwch. Nid yw’r awydd am oruchwyliaeth hefyd wedi’i gofnodi’n eang o fewn y meysydd hyn.

Discussions

Related