2026/05/20 by P. Davies, Jane Waters, Clive Underwood · 1 voice
Social Sciences · Arts and Humanities · #Parental Involvement in Education #Scottish History and National Identity #Historical Studies of British Isles
paper · pdf · doi:10.16922/wje.28.1.4cym
openalex publication_date 2026/05/20 · openalex created_date 2026/05/22 · openalex updated_date 2026/06/11
Yn sgil darparu addysg yn y cartref i blant yn ystod pandemig COVID-19, symudodd y rhyngweithio cyfarwydd rhwng ysgolion a rhieni i realiti newydd ar-lein, gan ein gorfodi i ailystyried agweddau a oedd wedi ennill eu plwyf ac weithiau wedi bwrw eu gwreiddiau yn ddwfn. Mae’r papur hwn yn ymchwilio i’r safbwyntiau ar brofiadau bywyd rhieni ac athrawon wrth iddynt drafod y cyfnod dysgu gartref, gan bwyso ar themâu sy’n pwysleisio’r ffactorau sy’n angenrheidiol ar gyfer perthnasoedd effeithiol rhwng y cartref a’r ysgol ac ar gyfer rhyngweithio rhwng rhanddeiliaid. Mae’r negeseuon hyn yn darparu gwersi gwerthfawr sy’n berthnasol i’r perthnasoedd rhwng y cartref a’r ysgol yn yr oes ôl-COVID. Mae’r angen am wybodaeth a dealltwriaeth glir, partneriaethau perthynol a chyfathrebu effeithiol yn ganolog i’r canlyniadau a’r casgliadau.