vix.ing · top · new · best · stats · spec

Hanes Cymry: Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwareiddiad Cymraeg

2021/06/15 by Simon Brooks · 1 voice
Arts and Humanities · #Historical Studies of British Isles #Scottish History and National Identity

paper · pdf · doi:10.16922/hanescymry

openalex publication_date 2021/06/15 · openalex created_date 2025/10/10 · openalex updated_date 2026/05/21

Abstract

Mae’r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dau amcan. Yn gyntaf, mae’n cynnwys, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i’r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae’n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy’n arwain at y cwestiwn, ‘Pwy yw’r Cymry?’ Yn ogystal â’r hanes cyffredinol, ceir penodau am Gymry du, y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod ac Iddewon yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, a’r Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr. O ran ei syniadaeth, trafodir pethau mor amrywiol â pherthynas y Cymry â threfedigaethedd a chaethwasiaeth, hybridedd grwpiau lleiafrifol, Saeson Cymraeg, a chenedlaetholdeb a hil. Wrth gloi, gofynnir ai’r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain.

Discussions

Related